51.78773494398897,-4.193817496017459,17

Cysylltu a ni

Ysgol Gymunedol Bancffosfelen
Bancffosfelen Llanelli
Sir Gaerfyrddin, SA15 5DR

Ffôn:01269 870 272
Ebost:head@bancffosfelen.ysgolccc.org.uk

Grant Amddifadedd Disgyblion - Datganiad 2018

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

  1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2017-18 rhoddwyd ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £8 650 i Ysgol Bancffosfelen.

Yn Ysgol Bancffosfelen mae gennym gynllun, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy-a hyfforddiant i staff penodedig i gyflwyno’r rhaglenni ymyrraeth fel Positive Play,Ditectifs Meddwl, Llythrennau a Synau ayb.